Huw Eurig Davies
Mae cyn-reolwr BBC One, Lorraine Heggessey, wedi arwain menter i brynu cyfranddaliadau’r cwmni o Gaerdydd, Boomerang Plus a’i ail lansio dan enw newydd.
Gydag arian hefyd gan gwmni buddsoddi o’r enw LDC, mae’n talu mwy na £7 miliwn am y cyfranddaliadau.
Mae cyfarwyddwyr annibynnol Boomerang wedi cefnogi’r cytundeb ar ôl i gwmni eu cynghori fod y cytundeb yn un teg a rhesymol.
Bydd y tîm rheoli newydd yn cynnwys prif weithredwr presennol y cwmni, Huw Eurig Davies, Mark Fenwick (cyfarwyddwr ariannol) a Gareth Rees (cyfarwyddwr gweithredol).
Ond Lorraine Heggessey fydd Cadeirydd Gweithredol y cwmni ac, yn ogystal â’r pencadlys yng Nghaerdydd, fe fydd gan y cwmni newydd swyddfa yn Llundian hefyd.
Dywedodd Huw Eurig Davies: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Boomerang. Mae gan Lorraine (Heggessey) enw a phrofiad heb ei hail o fewn y byd darlledu teledu a’r sector gynhyrchu.
“Mae cydweithio gyda Lorraine a LDC yn gam arwyddocaol wrth i ni barhau i ddatblygu ein strategaeth o adeiladu busnes rhyngwladol creadigol cryf â’i bencadlys yng Nghymru.”
Cyfrannnau’n codi
Roedd gwerth cyfrannau Boomerang wedi codi y bore yma ar ôl i’r cwmni cynhyrchu teledu gyhoeddi ei bod nhw wedi dod i gytundeb â Boom Pictures.
Lorraine Heggessey oedd y ddynes gyntaf i reoli BBC One ac mi roedd hi hefyd yn brif weithredwraig ar gwmni cynhyrchu Talkback Thames.