Eric Sykes
Mae’r actor comedi Eric Sykes wedi marw yn 89 oed ar ôl salwch byr.

Fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am y gyfres deledu Sykes And A… gyda Hattie Jacques.

Roedd hefyd wedi ysgrifennu sgriptiau am sêr fel Peter Sellers, Frankie Howerd a Stanley Unwin.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Syr Bruce Forsyth bod Eric Sykes “yn un o fawrion comedi yn y wlad hon.”