Mae trefnwyr Gŵyl Gerdd Wakestock ym Mhen Llŷn wedi prysuro i gadarnhau heddiw y bydd yr ŵyl yn mynd yn ei blaen yn Abersoch dros y penwythnos ar waetha’r tywydd gwael diweddar.

“Mae ‘na stori’n mynd o gwmpas fod yr ŵyl wedi cael ei chanslo, ond tydi hynny ddim yn wir,” meddai Bex Tappin, Swyddog y Wasg yr ŵyl, wrth Golwg360 pnawn ‘ma.

“Mi rydan ni’n hyderus y bydd yr ŵyl yn mynd yn ei blaen ac mi rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu miloedd o bobl i Ben Llŷn.”

Dywedodd bod trefniadau arbennig mewn llaw oherwydd y tywydd gwlyb gan gynnwys llefydd parcio ychwanegol a thraciau i bobl gerdded arnyn nhw.

Bydd gwersyll yr ŵyl yn agor pnawn Iau a bydd yr ŵyl yn dechrau ddydd Gwener.

Ymysg yr artistiaid sy’n cymryd rhan eleni mae Ms Dynamite, Dizzee Rascal, Ed Sheeran, Y Bandana, Al Lewis a Sŵnami.