Cywair, yr enillwyr yn 2011
Wrth i rai o gorau gora’r byd ymweld ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon, mae S4C yn galw ar gorau o bob cwr o Gymru – a thu hwnt – i ymgeisio yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2013 fydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ym mis Ebrill, 2013.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth gyda’r rowndiau cynderfynol ar benwythnos 15 i 17 Chwefror, a’r rownd derfynol ar 14 Ebrill, 2013. Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.
Yn ogystal â galw ar gorau yng Nghymru i gymryd rhan, mae S4C hefyd yn awyddus i weld corau o du hwnt i Glawdd Offa sydd â chysylltiad agos â Chymru neu sy’n perfformio’n gyson yn yr iaith Gymraeg yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon.
Bydd y corau yn cael eu rhannu i bum categori gwahanol – Plant, Ieuenctid, Merched, Meibion a Chymysg. Bydd y rhagbrofion yn cael eu cynnal yn ystod mis Tachwedd.
Rhaid bod lleiafswm o 20 aelod ym mhob Côr. Yn y categori Ieuenctid, rhaid i bob aelod fod o dan 25 oed ar ddiwrnod y rownd derfynol, sef 14 Ebrill 2013. Yn y categori Plant, rhaid i bob aelod fod yn 16 oed neu o dan 16 oed ar 31 Awst, 2013.
Meddai Hefin Owen, o gwmni Rondo sy’n cynhyrchu’r rhaglenni i S4C, “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal cystadleuaeth Côr Cymru unwaith eto. Mae’n ddigwyddiad sydd wedi ennill ei blwy yn y calendr corawl ac yn anrhydedd sydd wir yn uchelgais i gorau ei hennill
“Yn ogystal â chorau sefydlog, mawr obeithiwn y bydd corau newydd yn ffurfio er mwyn ymgeisio. Mae’r gwobrau’n hael a’r profiad yn wych. O ystyried safon cystadlaethau’r gorffennol, Côr Cymru yw’r teitl pwysicaf i gorau o Gymru ei ennill.”
Bydd pob côr sy’n cyrraedd y rowndiau cynderfynol ym mis Chwefror yn derbyn gwobr o £500 yr un. Mae gwobr o £500 pellach i enillydd pob categori, a bydd y corau hynny yn mynd ymlaen i gystadlu am wobr o £4000 yn y rownd derfynol ar 14 Ebrill.
Dyma fydd y chweched tro i S4C gynnal y gystadleuaeth, sy’n digwydd bob dwy flynedd. Côr Cywair, côr cymysg o Gastell Newydd Emlyn, ddaeth i’r brig yn 2011. Yr enillwyr blaenorol oedd Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2009, Côr Cywair yn 2007, Serendipity o Gaerdydd yn 2005 ac Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2003.
Am ragor o wybodaeth am gystadleuaeth Côr Cymru 2013 cysylltwch â Rondo ar 02920 223 456 neu e-bost corcymru@rondomedia.co.uk
Mae manylion ac amodau llawn y gystadleuaeth ar y wefan s4c.co.uk/corcymru