Jonathan Edwards
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn pryderu fod cwmnïau mawr yn rheoli gormod ar y cyfryngau yng Nghymru – a bod y corff rheoleiddio sydd i fod i edrych ar hyn yn gwrthod edrych ar y sefyllfa yn nhermau gwledydd gwahanol y Deyrnas Unedig.
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi rhybuddio fod Cymru’n wynebu “anhawsterau” oherwydd y prinder sianeli teledu sy’n “dangos wynebau a safbwyntiau Cymreig i’r byd”.
Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd y rheolydd cyfryngau Ofcom gyngor i Lywodraeth y DU ar blwraliaeth y cyfryngau a darpariaeth newyddion ar wahanol lwyfannau.
“Mae hyn yn peri pryder yn enwedig ble fo sylw i ddigwyddiadau newyddion yng Nghymru yn y cwestiwn,” meddai Jonathan Edwards, sy’n ysgrifennydd Grwp Seneddol aml-beidiol ar y cyfryngau yng Nghymru.
“Mae Llywodraeth Cymru yn meddu ar rymoedd cynyddol ond, gydag ambell eithriad, gwelir dirwyiad mewn craffu gan newyddiaduraeth ymchwiliol,” meddai wedyn, “a chyfleon cymharol gyfyngedig sydd ar gyfer cyhoeddi neu drafod polisïau.
“Mae’r un peth yn wir am unrhyw lwyfan cyfryngau gan fod y diffyg ffynhonellau cynhenid ar gyfer cyhoeddi a chasglu newyddion yn cael effaith ar ein gallu fel cymdeithas sifig i drafod materion Cymreig – nid dim ond newyddion ond chwaraeon, y celfyddydau, cerddoriaeth a threftadaeth.
“Mae perygl y gall y sefyllfa waethygu o hyd.”
Rhaid trafod y farchnad gyfryngau yng Nghymru
“Rhaid i berchnogaeth neu reolaeth golygyddol cyfryngau yng Nghymru gael ei adnabod,” meddai Jonathan Edwards, “a rhaid i’r ddadl barhau dros a yw’r farchnad cyfryngau yn gweithredu er budd y cyhoedd Cymreig neu’r cwmniau cyfryngau mawr sy’n poeni mwy am brisiau cyfranau na thestun da.
“Y gobaith yw y bydd ymchwiliad y Grŵp Seneddol yn ysbrydoli syniadau ar sut i wella’r sefyllfa.”