John Hefin
Bydd y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr adnabyddus, John Hefin,  yn derbyn Gwobr Cyfrwng eleni.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno iddo mewn cinio arbennig yng Ngwesty Morgans, Abertawe ar nos Iau, 12 Gorffennaf.

Mae John Hefin yn cael ei adnabod fel  person gweithgar  sydd wedi bod yn rhan o nifer o fentrau yn ymwneud â theledu a ffilm.

Tra’n Bennaeth Drama BBC Cymru bu’n gyfrifol am  Bus to Bosworth (cyflwynwyd gyda Kenneth Griffith), Life and Times of David Lloyd George (gyda Phillip Madoc), Tough Trade (gyda Sir Anthony Hopkins) a’r ffilm enwog Grand Slam, gydag, ymhlith eraill, Hugh Griffith a Sharon Morgan.

Gweithiodd John Hefin gyda S4C hefyd a chreu cyfresi bythgofiadwy fel Penyberth, Un Nos Ola Leuad a Cartrefi Cefn Gwlad Cymru.

Fodd bynnag, mae’n bosib mai creu’r gyfres sebon poblogaidd llwyddiannus, Pobol y Cwm ar ddechrau’r saithdegau oedd ei gyfraniad mwyaf.

Cydnabyddiaeth

Ar ben hyn oll mae Mr Hefin wedi cefnogi sefydliadau sy’n hyrwyddo ffilm a theledu Cymreig, fel Comisiwn Ffilm Cymru a’r Ŵyl Ffilm Geltaidd.

Bu John Hefin hefyd yn Gymrawd Dysgu (Ffilm) Prifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd gyda Choleg Cerdd a Drama Cymru lle y bu’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr, perfformwyr ac academyddion ifanc ym maes ffilm a theledu.

Cafodd ei ymdrechion eu cydnabod wrth dderbyn MBE am ei wasanaeth i fyd y ffilm yng Nghymru yn 2009, a Gwisg Wen yr Orsedd am ei gyfraniad i’r byd teledu.

Y flwyddyn hon mae’n derbyn Gwobr Cyfrwng, ac yn ôl Pwyllgor Rheoli Cyfrwng mae’n haeddiannol iawn ohoni.

“Mae John Hefin wedi ymroddi ei fywyd i hyrwyddo a phoblogeiddio cyfryngau Cymraeg, a hefyd rhodd gymorth i nifer o unigolion a oedd yn awyddus i weithio yng nghyfryngau cyhoeddus” meddai’r datganiad gan Bwyllgor Rheoli Cyfrwng.

“Mae ei gyfraniad o ran cynyrchiadau teledu a ffilm yn sylweddol a bu’n ddarlithydd ysbrydoledig tra’n aelod o staff Prifysgol Aberystwyth i nifer o unigolion sydd bellach yn gweithio yn y diwydiant ac yn darlithio yn y maes.”