Sŵnami ar raglen Y Lle ar S4C
Mae’r grŵp ifanc cyffrous o Feirionydd, Sŵnami, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf yr wythnos hon.

Mae’r sengl newydd ‘Mynd a Dod’ allan ar label Copa’r wythnos hon, ac mae’r grŵp hefyd yn llenwi tudalen Y Babell Roc yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

“Mae rhyddhau ein sengl gyntaf ni’n golygu lot fawr i’r band gan ei fod yn gam ymlaen ac yn arwydd o’r holl waith caled rydym wedi ‘i wneud yn ddiweddar” meddai Ifan Ywain o’r grŵp wrth Golwg360.

“Gan edrych nôl mae bandiau fel Yr Ods ac Y Bandana wedi rhyddhau senglau llwyddiannus, ac yna dilyn hynny gyda EP neu albwm ac rydym ni’n gobeithio mai dyma fydd yn digwydd i ni.”

Aeddfedu

Cyhoeddwyd yr wythnos hon hefyd mai’r grŵp ifanc yw’r diweddaraf i ymuno ag arlwy gig ‘50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid fis nesaf.

Yn ogystal â hynny byddan nhw’n perfformio yng ngŵyl tonfyrddio enfawr Wakestock ym Mhen Llŷn yr wythnos nesaf.

Mae popeth i’w weld yn mynd yn dda i’r grŵp a ffurfiodd yng Ngholeg Meirion Dwyfor felly, ac yn ôl Ifan Ywain mae’r sengl yn dangos cymaint mae eu cerddoriaeth wedi datblygu.

“Yn sicr dwi’n teimlo bod ein cerddoriaeth wedi aeddfedu ers y traciau cyntaf a ryddhawyd a ’da ni’n dechrau dod yn agosach at ddarganfod ein sŵn ‘ni’” meddai’r gitarydd.

“Dwi’n credu bod yna lai o ddefnydd o gitâr a mwy o’r synth yn mynd a dod, ac mae hynny’n rhywbeth da ni’n edrych i wneud o hyn ymlaen.

“Da ni’n gobeithio gall y newid yma’n gwahaniaethu ni oddi wrth rhai o’r bandiau gitâr eraill sydd o gwmpas ar y funud, a chynnig rwbath gwahanol i’r gynulleidfa.”

Mae ‘Mynd a Dod’ ar gael i’w lawr lwytho rŵan.