Ian Brady a Myra Hindley yn 1965
Mae Ian Brady, sy’n cael ei adnabod fel y ‘Moors Murderer’ wedi cael ei gymryd i’r ysbyty. Credir ei fod wedi dioddef trawiad neu strôc. Mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Fazackerly.

Carcharwyd Brady, sy’n 74 oed, yn 1996 ar ôl iddo lofruddio tri o blant.

Mae wedi cael ei gadw yn Ysbyty Ashworth, Maghull ers 1985.

Roedd o i fod i ymddangos o flaen tribiwnlys iechyd meddwl dydd Llun nesaf ar ôl iddo wneud cais i gael ei drosglwyddo i garchar yn yr Alban, gyda’r hawl i farw yno.

Mi wnaeth Brady, a’i gariad Myra Hindley, fynd ati i ddenu plant, gan eu harteithio cyn eu lladd a’u claddu ar Waun Saddleworth ger Manceinion.

Mae wedi bod yn gwrthod bwyta ers 12 mlynedd, ac mae’n cael ei fwydo drwy diwb.