Arlywydd Assad
Mae Arlywydd Syria, Bashar al-Assad, wedi dweud ei fod yn gwbl edifar fod awyren jet o Dwrci wedi cael ei saethu i lawr ar ôl hedfan i mewn i ofod awyr Syria.
Mewn cyfweliad gyda’r papur newydd o wlad Twrci, Cumhuriyet, dywedodd Arlywydd al-Assad fod yr awyren wedi hedfan i mewn i ardal oedd yn arfer cael ei defnyddio gan awyrennau militaraidd Israel.
Fe saethwyd yr awyren i lawr uwchben Môr y Canoldir mis diwethaf a dydi cyrff y ddau beilot ddim wedi cael eu darganfod.
Mae tensiwn rhwng Syria a Thwrci wedi cynyddu o ganlyniad i’r digwyddiad.
Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Tayip Erdogan, yr wythnos ddiwethaf fod Syria yn “fygythiad clir a phresennol.”