Llifogydd Ceredigion
Mae’r trenau rhwng yr Alban a Lloegr wedi dod i stop oherwydd y dilyw yn sgîl stormydd glawog ddoe, a bu farw un dyn ar ôl cael ei sgubo i’r afon yn Swydd Amwythig.

Bu’n rhaid gwagio cannoedd o dai yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a gogledd a chanolbarth Lloegr.

Roedd cenllysg anferthol yn syrthio ac adroddiadau bod ambell dornedo wedi taro.

Ac eto roedd rhannau o dde Ynysoedd Prydain wedi cael tywydd braf gyda thymheredd hyd at 28c.