Mae galw ar i gwmni Tesco gyflogi siaradwyr Cymraeg pan fyddan nhw’n agor siop Express newydd ym Methesda.

Yn ôl y cwmni fe fyddan nhw angen 20 o bobol i weithio yno, ac mae Cadeirydd Menter Iaith Dyffryn Ogwen yn dweud bod angen mwy nag arwyddion dwyieithog ar y safle.

“Os na fydd staff sy’n medru’r Gymraeg yn cael eu penodi ym Methesda” meddai Ieuan Wyn, “bydd cyd-destun Saesneg arall yn cyfrannu at danseilio’r Gymraeg fel iaith y gymdeithas, gyda chwsmeriaid yn gorfod troi i’r Saesneg er mwyn derbyn gwasanaeth. Mae sefyllfa o’r fath yn gwbl annerbyniol, a byddwn yn parhau i ddwyn pwysau ar y cwmni.”

Tra bo Tesco yn dweud eu bod yn anelu at gyflogi pobol leol, fedran nhw ddim ymrwymo i ddarparu staff dwyieithog.

Mwy am hyn yn y rhifyn cyfredol o Golwg.