Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn penderfyniad ei Lywodraeth i beidio â darparu fersiwn Gymraeg o ddogfen ymgynghorol sy’n amlinellu ‘parthau cadwraeth morol’ posib.

Mi fyddai pysgotwyr yn cael eu gwahardd o’r llefydd hyn, ac mae nifer yn ofni bod eu bywoliaeth yn y fantol.

Datgelodd y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon nad ydy’r ddogfen Marine Conservation Zones (MCZs) Potential Site Options for Welsh Waters ar gael yn y Gymraeg, a bod hynny wedi mynd dan groen rhai o Gymry Cymraeg Pen Llŷn.

Mewn datganiad esboniodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod y ddogfen yn uniaith Saesneg yn rhannol oherwydd ei bod yn ddogfen “o natur dechnegol” ond hefyd am fod “oes gyfyngedig” iddi.

“Cymerwyd y penderfyniad i beidio cyfieithu i’r Gymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi a chanllawiau er mwyn pennu os dylen gynhyrchu dogfennau yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Carwyn Jones yn amddiffyn y polisi peidio cyfieithu

Ac mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn iawn i beidio darparu’r ddogfen ymgynghorol yn y Gymraeg i sgotwrs Llŷn.

“Mae yna ambell i amser pan mae yna ddogfen yn cael ei ysgrifennu yn Saesneg [yn unig], ond mae’n bwysig dros ben bod pobl yn cael y cyfle i ymateb yn Gymraeg. Fe fydd hwnna yn digwydd,” meddai Carwyn Jones.

Ac roedd am sicrhau’r ‘sgotwrs y bydden nhw’n cael siarad y Gymraeg mewn cyfarfodydd ymgynghorol.

“Mae yna gyfarfod yn dod lan yn Caernarfon cyn bod hir, ac fe fydd pobl yn gallu siarad yn Gymraeg. Fe fydd pobl yn gallu rhoi eu hatebion yn ysgyrifennedig ac ar lafar yn Gymraeg. Felly bydd yna bob cyfleuster ar gael i bobl fel bod nhw yn gallu defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’r broses ymgynghori.”

Cewch ragor am ffrae’r parthau cadwraeth ar y môr yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.