Mae grŵp sydd wedi ei gadeirio gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cynnal ymchwiliad wedi i olew ddiferu i’r môr oddi ar safle SemLogistics yn Aberdaugleddau.
Mae swyddogion yr Asiantaeth ar y safle i asesu effaith yr olew ond mae’n debyg fod y sefyllfa dan reolaeth.
Mae SemLogistics a’r Asiantaeth yn cydweithio i gymryd y camau angenrheidiol er mwyn diogelu’r safle.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod lefel y risg yn dilyn y digwyddiad hwn yn isel.
Mae strategaeth samplu aer a dŵr yn ei lle fel mesur diogelwch.
Mae’r grŵp sy’n cynnal yr ymchwiliad yn cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Penfro a SemLogistics.
Mae’r grŵp ymgynghorol lleol wedi cael gwybod am yr ymchwiliad, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.