Cerflun Owain Glyndwr
Mae disgyblion ysgol gynradd Llandysul yng Ngheredigion yn lansio ffilm heno am hanes Owain Glyndŵr.
Mae’r ffilm yn rhan o gynllun Stori Cymru, prosiect sy’n adrodd hanes Cymru drwy gyfrwng ffilm yn y gymuned.
Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Lleucu Meinir, gwneuthurwr ffilm lawrydd, ac mae hi’n gweithio gyda phobl o bob oedran i greu prosiectau cymunedol.
Mae’r plant wedi cael y cyfle i ymchwilio cyswllt Owain Glyndŵr ag ardal Llandysul ac wedi bod yn ffilmio mewn nifer o leoliadau.
Mae’r lleoliadau ffilmio’n cynnwys Gilfachwen, Bronwydd, Llangynllo a Thresaith, porthladd mam Owain Glyndŵr.
Roedd y plant hefyd wedi cael y cyfle i weithio gyda’r haneswyr lleol John Davies a Guto Prys ap Gwynfor.
Er bod y lansiad heno, dyw’r ffilm ddim wedi cael ei chwblhau.
Bydd diwedd y ffilm yn cael ei ffilmio o flaen cynulleidfa fyw heno.