Edward H Dafis
Mi fydd y sioe gerdd ‘S’neb yn Becso Dam’, sydd wedi’i selio ar record hir Edward H Dafis, yn mynd ar daith o amgylch Cymru fis nesaf.
Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, sy’n arwain y prosiect, gyda chyn-enillydd Ysgoloriaeth Eisteddfod yr Urdd, Rhys Taylor yn Gyfarwyddwr Cerdd, a Sarah Mumford fel coreograffydd.
Mae’r cast yn cynnwys 42 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru.
“Mae caneuon ’Sneb yn Becso Dam yr un mor berthnasol heddiw ag oedden nhw nôl yn y 1970au pan ryddhawyd yr albym,” meddai Jeremy Turner.
“Yr un yw’r temtasiwn i bobl ifanc i adael eu cynefin i chwilio am swyddi ac am ffordd well o fyw – ond neges ein sioe gerdd ni yw er gwaethaf y gobeithion a’r bwriadau gorau posib, mae pethau’n gallu mynd yn anghywir a does nunlle’n well nag adref.
“Mae’r ffaith fod yna gwmni theatr ieuenctid cenedlaethol Cymraeg yn bodoli yn hollbwysig – nid yn unig i feithrin talent pobl ifanc ond i’r diwylliant yng Nghymru,” ychwanegodd y Cyfarwyddwr Artistig.
‘Straeon ifanc a ffres’
Mae’r sioe gerdd yn olrhain hanes Lisa Pant Ddu, merch o’r wlad sy’n dyheu am fyw bywyd cyffrous a chyflym y ddinas. Ond ar ôl i Lisa adael ei chartref, mae’n gweld ochr dywyll y ddinas ac mae pethau’n mynd o chwith iddi.
“Mae cymeriad Lisa yn cynrychioli’r genhedlaeth ifanc sydd eisiau gadael eu cynefin i fynd i weld beth sydd gan y ddinas fawr i gynnig,” meddai Hana Medi, sy’n chwarae rhan Lisa Pant Ddu.
“Dyw hi ddim yn gwybod beth i ddisgwyl a thra bod hi yno mae pethau gwael yn digwydd iddi a phobl yn cael dylanwad drwg arni.
“Mae’r straeon yn rhai ifanc a ffres ac mae’r gerddoriaeth yn tynnu pobl hŷn at ein drama ni,” ychwanegodd y myfyrwraig sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae taith Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn rhan o raglen arbennig ‘Grym y Fflam’ sy’n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth Prydain, sy’n gadael etifeddiaeth o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Mae’r prosiect hefyd yn derbyn nawdd gan Goleg Prifysgol y Drindod, Dewi Sant.
Bydd y ddrama yn ymweld â thri lleoliad ar y daith, gan ddechrau yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin (11 Gorffennaf), cyn symud ymlaen i Sherman Cymru, Caerdydd (13 Gorffennaf) a’r Pafiliwn yn y Rhyl (16 Gorffennaf).