David Cameron
Fe fydd David Cameron yn awgrymu heddiw ei fod yn ystyried atal budd-daliadau i bobl ifainc gan rybuddio bod y system bresennol yn achosi rhwyg mewn cymdeithas.

Mewn araith heddiw, fe fydd y Prif Weinidog yn awgrymu atal budd-dal tai i bobl o dan 25 oed a’u gorfodi i fyw gyda’u rhieni.

Mae’r budd-dal yn werth £90 yr wythnos ar gyfartaledd, ac mae 380,000 o bobl ifanc yn ei dderbyn. Mi fyddai atal y budd-dal yn arbed £1.8 biliwn i’r Llywodraeth.

Fe fydd hefyd yn awgrymu cyflwyno budd-dal di-waith am gyfnod penodol yn unig, a chyfyngu budd-daliadau i deuluoedd sydd â nifer fawr o blant.

Yn ôl David Cameron mae’r system budd-dal presennol yn annog rhai pobl i beidio â gweithio ac i gael plant, ond fe ddylid helpu pobl i weithio a chael plant, meddai.

Mi fyddai’r cynnig i gael gwared ar y budd-dal tai i’r rhai dan 25 oed y cynnwys eithriadau ar gyfer achosion arbennig fel trais yn y cartref.

Mae David Cameron wedi galw am drafodaeth ehangach ar y wladwriaeth les.