Mae disgwyl i’r Alban ddilyn ôl traed Cymru wrth i’r llywodraeth yno ystyried cyflwyno’r system o godi 5c ar fagiau plastig.

Bydd ymgynghoriad tri mis yn dechrau ddydd Mercher gan yr SNP fel rhan o’i haddewid i gael gwared â bagiau plastig am ddim.

Mae disgwyl i ganlyniadau’r ymgyrch yng Nghymru, a ddechreuodd ym mis Hydref y llynedd, fod yn rhan allweddol o’r ymchwiliad.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn yr Undeb Ewropeaidd i gyflwyno’r cynllun.

Mae archfarchnadoedd eisoes wedi datgelu eu bod wedi cyrraedd eu nod yn barod, gyda 90% yn llai o ddefnydd o fagiau plastig yn y siopau.

Mae’r cynllun wedi codi miloedd o bunnoedd at achosion da yng Nghymru, gydag enghreifftiau diweddar yn cynnwys datblygiadau i waith cadwraeth y RSPB ger Rhaeadr Gwy a’r adeiladwaith o waliau cerrig ym Mharc Bute, Caerdydd.

Serch hynny, mae gwrthwynebiad i’r cynllun yn parhau gyda’r ‘TaxPayers’ Alliance’ yn ymgyrchu nôl ym mis Mai i gael gwared â’r cynllun.