Mae arbenigwyr tywydd yn dweud ei bod yn bosib y bydd y mis hwn yn un o’r gwlypaf ers can mlynedd.

Mae wedi bod yn bwrw eto neithiwr ar draws Prydain, ac mae’n debyg mai’r De Orllewin fydd yn cael y tywydd gwaethaf heddiw.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 23 rhybudd o lifogydd ar draws Lloegr – 20 ohonyn nhw yn y De Orllewin.

Dim ond un rhybudd sydd bellach yng Nghymru, sef ar gyfer afonydd dalgylch Teifi uchaf uwchben Llanybydder, gan gynnwys Llanybydder ei hun.

Mae’r sefyllfa wedi bod yn arbennig o ddrwg yn Cumbria. Yng Ngorllewin Swydd Efrog mae Afon Calder wedi codi yn arbennig o uchel ac mae Afon Yarrow yn Croston, Swydd Gaerhirfryn wedi gorlifo, gyda’r dŵr yn llifo i mewn i 70 o gartrefi.

Mae ymwelwyr â gŵyl gerddorol ar Ynys Wyth hefyd wedi dioddef amser gwlyb a mwdlyd, ond dywed yr arbenigwr tywydd Matt Dobson y bydd hi’n well yno heddiw gan nad ydyn nhw’n disgwyl glaw yno.

Mae trefnwyr yr ŵyl Penwythnos Hackney Radio 1 hefyd yn gobeithio gweld ychydig o haul heddiw. Bydd y gantores boblogaidd Rhianna yn ymddangos ar lwyfan yr ŵyl heno.