Dai Greene
Mae Dai Greene wedi ennill y ras 400m dros y clwydi yn Nhreialon Athletau Gemau Olympaidd Llundain ym Mirmingham.

Fe enillodd y ras  mewn 49.7 eiliad.

Dechreuodd y Cymro arall yn y ras, Rhys Williams, yn dda ond yn anffodus fe ddisgynnodd yn ail hanner y ras.

Jack Green, sydd yn hyfforddi gyda Dai, wnaeth ddod yn ail.

Fe fydd y ddau yn awr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd.

Derbyniodd Greene lawdriniaeth ar ei ben-glin ym mis Rhagfyr y llynedd ac mae’n cyfaddef nad yw e wedi cael dechrau perffaith i’r tymor.

Ond fe ddywedodd ar ôl y ras prynhawn ʼma ei fod yn cryfhau.