Dai Greene
Mae’r athletwr o Gymru, Dai Greene, sy’n gobeithio ennill Medal Aur yn y ras 400m dros y clwydi yn y gemau Olympaidd yn Llundain, wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol yn y treialon athletau Olympaidd ym Mirmingham.
Bydd Cymro arall, Rhys Williams, hefyd yn y rownd derfynol.
Derbyniodd Greene lawdriniaeth ar ei ben-glin ym mis Rhagfyr y llynedd ac mae’n cyfaddef nad yw e wedi cael dechrau perffaith i’r tymor.
“Ond mae pethau’n gwella,” meddai. “O ran fy sesiynau hyfforddi, mae pethau wedi gwella’n arw. Dwi’n gallu teimlo fy hun yn cryfhau trwy’r adeg. Dwi’n teimlo fy mod wedi troi cornel.”