Greg Draper
Er gwaethaf sgorio’r gôl a wnaeth sicrhau lle i Seland Newydd yn y gemau Olympaidd, nid oedd hynny’n ddigon i ymosodwr y Seintiau newydd, Greg Draper, sicrhau ei le yn y garfan.

Fe sgoriodd Draper yr unig gôl yn y fuddugoliaeth dros Ffiji ym mis Mawrth a sicrhaodd bod Seland Newydd yn cael cystadlu yn y gemau Olympaidd.  Yr oedd yn gobeithio cymryd rhan yn ei ail gemau Olympaidd, ar ôl iddo gael ei dewis i gystadlu yn Beijing bedair blynedd yn ôl.

‘‘Roeddwn yn hynod o siomedig ond roeddwn yn gwybod bod yna siawns nad oeddwn yn mynd i gael fy newis, roeddwn yn barod am hynny,’’ meddai’r chwaraewr 22 oed a sgoriodd 27 gôl i helpu’r Seintiau Newydd i gipio teitl Uwch Gynghrair Cymru.

‘‘Fe wnes i bopeth (i wneud y tîm), ond yn awr yr wyf am ganolbwyntiau gyda fy ngyrfa â’r Seintiau Newydd,’’ ychwanegodd.

Dywedodd mai uchafbwynt ei yrfa oedd cymryd rhan yn y Gemau Olympadd yn Beijing, ac yn bwriadu mynd i gefnogi ei gyd chwaraewyr rhyngwladol pe bai’n cael y cyfle.