Rhys Griffiths
Mae Rhys Griffiths yn dweud ei fod yn hynod o falch o gael symud o Lanelli ac yn ôl at ei hen glwb Port Talbot.

Mae Griffiths yn dychwelyd i stadiwm GenQuip ar ôl chwe thymor rhagorol gyda Llanelli, lle wnaeth o sgorio 180 o gôls mewn 181 gêm, a dod yn ail sgoriwr uchaf Uwch Gynghrair Cymru yn y broses.

‘‘Roeddwn yn teimlo ei bod hi’n amser iawn i adael Llanelli.  Rwyf eisioes wedi cael croeso cynnes gan y cefnogwyr, maen nhw wedi helpu fy mhenderfyniad i ddod yma,’’ meddai Rhys Griffiths.

 Rheolwr y Talbot wrth ei fodd

Mae Mark Jones, rheolwr Port Talbot, wrth ei fodd gyda’r chwaraewyr y mae wedi llwyddo i’w hychwanegu at y garfan.

‘‘Rydym wedi llwyddo i gael dau fachgen ifanc da, Carl Payne a Daniel Sheehan.  Mae gennym gôlgeidwad da, Craig Richards. Ac mae Danny Thomas wedi dangos ei allu i ni,’’ meddai Mark Jones.

‘‘Nid yn unig bod gennym dîm cryf bellach, ond carfan sy’n gystadleuol ar draws y cae, mae mwy neu lai dau chwaraewr yn cystadlu ar gyfer pob safle ar y maes,’’ ychwanegodd.

Hefyd mae Micky Holland wedi ymrwymo ei hun i’w bedwerydd tymor gyda’r Gleision.