Huw Jenkins yn croesawu Michael Laudrup i'r Liberty ddoe
Mae Cadeirydd clwb Abertawe, Huw Jenkins wedi gwadu’r adroddiadau am wneud cais am ymosodwr Middlesbrough Emnes Marvin.

Holodd yr Elyrch am Emnes ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac roedd sôn mai £3 miliwn a gynigwyd am yr ymosodwr.

‘‘Fe wnaethon ymholiadau ar gyfer argaeledd Marvin chwe wythnos yn ôl,” meddai Jenkins.

“Ond bryd hynny yr oedd Brendan Rodgers yn rheolwr ar y clwb, rydym yn sicr heb wneud ymchwiliad ers hynny.

‘‘Gyda Laudrup wrth y llyw yn awr, mae’r holl opsiynau presennol a newydd yn cael eu hasesu.  Mae’n bwysig i gefnogwyr beidio â darllen gormod am yr holl enwau sy’n cael eu cysylltu â’r clwb,’’ ychwanegodd.

Cafodd Marvin amser llwyddiannus ar fenthyciad i Abertawe ym mis Hydref yn 2010. Fe ddaeth yn arwr yn syth a’r ôl sgorio yn erbyn Caerdydd.