Mae Cadeirydd yr Elyrch Huw Jenkins yn dweud mai Michael Laudrup yw’r dyn perffaith i adeiladu ar lwyddiant diweddar yr Elyrch.

Ddoe cafodd y rheolwr 48 oed ei ddadorchuddio o flaen y cyfryngau ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd.

‘‘Yn gyntaf oll, roedd angen cael rhywun â phersonoliaeth hoffus ac hefyd rhywun yr oeddwn yn gallu gweithio gydag o, sydd o blaid ein steil fel clwb.  Felly wedi dweud hynny, fe ddaethom i benderfyniad mai Michael oedd y dyn,’’ meddai Huw Jenkins.

‘‘Rwy’n credu ein bod ni wedi gwneud penderfyniadau da yn y gorffennol ynglŷn â’r clwb, ac rydym yn teimlo ein bod ni wedi cael rhywun sy’n mynd i weithio gyda ni dros y blynyddoedd nesaf ac i symud y clwb ymhellach,’’ ychwanegodd Huw Jenkins.