Oherwydd y problemau technegol sydd wedi taro banciau’r NatWest, Royal Bank of Scotland ac Ulster Bank, mi fydd canghennau o’r banciau ar agor dros y penwythnos.

Mae’r problemau cyfrifiadurol, a ddechreuodd Dydd Iau, wedi effeithio ar gannoedd ar filoedd o gwsmeriaid y banciau gyda thaliadau ddim yn cael eu derbyn nag ychwaith yn cael eu talu allan.

Mae rhai cwsmeriaid wedi cael trafferth wrth geisio cwblhau prynu tai ac mae rhai cwsmeriaid eraill yn wynebu’r penwythnos heb arian yn eu poced.

Mae NatWest wedi ymddiheuro am y cawdel. Dywed y banc eu bod nhw’n gweithio’n galed i ddatrys y sefyllfa ac y bydd staff ar gael yn eu canghennau dros y penwythnos i roi cymorth i gwsmeriaid sydd angen arian.

Mae 7.5 miliwn o bobl yn bancio gyda’r Natwest.