Mae’r tywydd gwael wedi bod yn parhau yng Nghymru, ond mae’n ymddangos mai Gogledd Lloegr sydd wedi dioddef y tywydd gwaetha dros nos.
Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd ar gyfer rhannau helaeth o ogledd Lloegr, ac mae rhai pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mae trefi Croston a Darwen yn Swydd Gaerhirfryn wedi cael eu heffeithio’n ddrwg gan y llifogydd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 150 o rybuddion llifogydd i gyd.
Yng Nghymru, mae tri rhybudd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer afonydd dalgylch Tywi Uchaf uwchben Llandeilo, ac eithrio Afon Bran yn Llanymddyfri, afonydd dalgylch Teifi uchaf uwchben Llanybydder, gan gynnwys Llanybydder ei hun, ac afonydd gogledd Ceredigion gan gynnwys Clarach, Rheidol ac Ystwyth.