Siom i Ryan Jones a'r Cymry
Mae Cymru wedi colli’r prawf olaf yn Sydney, a hynny o un pwynt yn unig.

Y Wallabies, felly, sydd wedi ennill Tlws James Bevan.

Unwaith eto, mae’r Cymry wedi boddi wrth ymyl y lan, ac roedd rhai ohonyn nhw yn eu dagrau ar ddiwedd y gêm.

Mi roedd y ddau dîm wedi edrych yn frwdfrydig ac ymosodol ar ddechrau’r ail hanner. Mi wnaeth Ryan Jones sgorio cais ond unwaith eto, brwydr rhwng Halfpenny a Barnes oedd hi wedyn. Barnes enillodd y frwydr honno gan fod Halfpenny wedi methu un gic gosb, gan daro’r postyn.

Gyda 10 munud i fynd, roedd Cymru ar y blaen, a’r sgôr yn 17: 19. Gyda’r tensiwn yn cynyddu yn y stadiwm, roedd Cymru wedi llwyddo i ennill lein. Gyda Ken Owens yn taflu, roedd gobeithion y Cymry unwaith eto wedi codi. Ond yna, dyfarnwyd cic gosb i Awstralia, gyda’r capten Ryan Jones yn dangos ei anfodlonrwydd â phenderfyniad y dyfarnwr o Dde Affrica, Craig Joubert.

Yn wahanol i Gymru’r wythnos diwethaf, fe lwyddodd y Wallabies i gadw meddiant o’r bêl ym munudau ola’r gêm.

Mae’r freuddwyd o ennill yn Awstralia am y tro cyntaf ers 1969 wedi ei chwalu. Ond mae chwaraewyr Cymru wedi ennyn parch trwy chwarae gyda dewrder a phenderfyniad. Yn anffodus, gwnaethpwyd gormod o gamgymeriadau y tro hwn i  sicrhau buddugoliaeth yn ystod y gyfres o dair gêm.

Mi wnaethon nhw ddod yn agos. Gyda mwy o lwc, ac efallai penderfyniadau gwahanol gan y dyfarnwyr, mi fyddai’r fuddugoliaeth wedi dod. Mi fydd yn rhaid i’r Crysau Cochion, yn awr, aros am gyfle arall i faeddu’r Wallabies ar eu tir eu hunain.