Justin Tipuric
Tydi’r Cymry ddim wedi cael llawer o feddiant ond maen nhw’n parhau i frwydro yn y prawf olaf yn Sydney.

Ar ôl y siom munud ola’ ym Melbourne, roedd y Cymry yn awyddus i daro nôl yn bwerus yn Sydney ond Awstralia oedd yn rheoli ar ddechrau’r gêm.

Ac roedd calon pob Cymro’n suddo wrth weld Leigh Halfpenny yn dioddef ar ôl derbyn anaf ym munudau cynta’r gêm.

Ond fe lwyddodd Halfpenny i ddod at ei hun, ac unwaith eto mae ei gicio wedi bod yn wych.

Brwydr y cicwyr ydi stori’r hanner cyntaf wedi bod, ond fe ddylsa Cymru wedi sgorio o leia un cais.

Mi fydd yn rhaid iddyn nhw aros yn gadarn yn yr ail hanner, a hynny heb eu capten, Sam Warburton, sydd wedi gadael y cae wedi ei anafu.

Justin Tipuric sydd wedi dod ymlaen yn ei le, a Ryan Jones yw’r capten.

A all Ryan arwain y Cymry i fuddugoliaeth yn yr ail hanner?