Kurtley Beale
Mae prif reolwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi rhybuddio ei dîm i fod ar eu gwyliadwriaeth gan fod y chwaraewr ymosodol Kurtley Beale yn dychwelyd i dîm Awstralia ar gyfer y prawf olaf heddiw yn Sydney.

Fe gollodd Beale y ddau brawf cyntaf gan ei fod wedi anafu ei ysgwydd.

Mae Howley yn ymwybodol ei fod yn chwaraewr o safon a all greu problemau i’r Cymry.

“Mae’n rhoi problem arall i ni boeni amdano,” meddai.

Dywedodd hefyd y byddai rhaid i chwarae’r Cymry fod yn fwy manwl gywir ac y byddai’n rhaid iddyn nhw ddangos mwy o hunanfeddiant ar adegau tyngedfennol yn ystod y gêm.

Diolch i’w brwydrau agos yn Awstralia, mae Cymru bellach wedi codi i’r bedwerydd safle yn y rhestr swyddogol o dimau gorau’r byd.