Mae arolwg wedi ei wneud i geisio dod o hyd i ardaloedd sydd ar drothwy tlodi ym Mhrydain.

Yng Nghymru, Conwy yw’r ardal gyda’r nifer fwyaf o gartrefi sydd yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi os yw’r sefyllfa economaidd yn gwaethygu, yn ôl ymchwiliad diweddar gan Experian.

Mae’r ganran isaf – 7% – yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Daeth Conwy yn safle rhif 36 ar y rhestr o 406 o siroedd ym Mhrydain, gyda 23% o dai yr ardal ar drothwy tlodi.

Bwriad Experian, cwmni gwasanaethu gwybodaeth, yw amlinellu’r ardaloedd hynny sydd ar fin bod mewn cyflwr o dlodi.

Os bydd y sefyllfa economaidd yn gwaethygu, mae disgwyl i lawer o’r ardaloedd sydd yn uchel ar y rhestr fod mewn perygl o dlodi, yn ôl y gwaith ymchwil.

Dydi’r ymchwiliad ddim yn cyfrif y teuluoedd hynny sydd eisoes yn byw mewn tlodi.

% y teuluoedd mewn perygl o dlodi

Dyma restr o siroedd Cymru sydd, yn ôl Experian, yn wynebu’r her fwyaf i osgoi tlodi yn sgil anhawsterau’r economi.

1.    Conwy – 23%

2.    Powys – 21%

3.    Torfaen – 21%

4.    Gwynedd – 20%

5.    Pen-y-bont ar Ogwr – 20%

6.    Sir Ddinbych – 20%

7.    Sir Gaerfyrddin – 19%

8.    Sir Benfro – 17%

9.    Wrecsam – 17%

10.  Blaenau Gwent – 16%

11.  Sir y Fflint – 16%

12.  Sir Fôn – 16%

13.  Caerffili – 15%

14.  Ceredigion – 13%

15.  Rhondda Cynon Taf – 13%

16.  Sir Fynwy – 13%

17.  Casnewydd – 12%

18.  Nedd Port Talbot – 11%

19.  Bro Morgannwg – 9%

20.  Merthyr Tudful – 8%

21.  Abertawe – 7%

22.  Caerdydd – 7%