Fe fydd priodasau gorfodol yn anghyfreithlon o dan ddeddf newydd sy’n cael ei chynnig gan Lywodraeth Prydain.
Mae’r arfer yr un peth â chaethwasiaeth, meddai’r Prif Weinidog, David Cameron, wrth gyhoeddi’r datblygiad.
Ond, wrth groesawu’r sylw i’r broblem, mae rhai mudiadau gwirfoddol wedi rhybuddio y gallai cyfraith o’r fath ei gwneud hi’n fwy anodd i rwystro’r arfer.
Carchar i rieni
Os bydd yn cael ei phasio, fe fydd y ddeddf newydd yn golygu gwneud trosedd benodol o briodasau gorfodol yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Fe allai rhieni sy’n gorfodi eu plant i briodi wynebu cyfnodau o garchar.
“Mae priodasau gorfodol yn atgas a fawr mwy na chaethwasiaeth,” meddai David Cameron. “Mae gorfodi rhywun i briodi yn erbyn eu hewyllys yn anghywir a dyna pam ein bod wedi cymryd y cam pendant yma i’w wneud yn anghyfreithlon.”
Pryder elusen
Yn ôl y mudiad gwarchod plant, yr NSPCC, mae plant ifanc iawn yn cael eu gorfodi i briodi a hynny’n gyfystyr â cham-drin.
Ond maen nhw wedi rhybuddio y gallai creu cyfraith arbennig arwain at fwy o guddio, gyda phlant yn anfodlon rhoi gwybodaeth rhag i’w rhieni gael eu hanfon i garchar.
Wrth gydnabod y peryg hwnnw, fe ddywedodd David Cameron y byddai £500,000 ar gael i wella’r broses o ymchwilio ac erlyn.