Mae cymdeithasau swyddogion heddlu wedi protestio’n gry’ yn erbyn y dyn sydd wedi cael ei ddewis i fod yn Brif Arolygydd ar y gwasanaeth.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi enwebu Tom Winsor, y cyfreithiwr sy’n gyfrifol am ddau arolwg i newid cyflogau ac amodau gwaith plismyn.
Yn ôl un o bwyllgorau Ffederasiwn yr Heddlu, mae’r dewis yn “anhygoel” ac yn ôl y corff polisi, yr IPPR, mae’r dewis yn “fentrus os nad yn rhyfygus”.
Yn gyhoeddus, beth bynnag, mae’r brif feirniadaeth ynghylch diffyg profiad Tom Winsor gan nad yw erioed wedi bod yn blisman ei hun.
Ef fyddai’r cynta’ heb brofiad uniongyrchol i ddal swydd y Prif Arolygydd ers ei sefydlu yn 1856.
Mynd o flaen Pwyllgor
Fe fydd yn ymddangos gerbron Pwyllgor Dethol Materion Cartref y Senedd yr wythnos nesa’, cyn y bydd ei enw’n mynd gerbron y Prif Weinidog a’r Frenhines am gadarnhad.
Yn ei arolygon tâl ac amodau, roedd Tom Winsor wedi symud y pwyslais o wobrwyo blynyddoedd o wasanaeth i wobrwyo gwaith – fe fyddai heddlu rheng flaen ar eu hennill ond eraill, gan gynnwys plismyn newydd, yn colli.
Mae’r enwebiad yn awgrymu bod yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, eisiau person mwy annibynnol a allai wrthsefyll rhai o freintiau traddodiadol yr heddlu.