Fe allai’r gwrthdaro yn Syria droi’n rhyfel cartref llawn, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon.
Ac mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, wedi galw ar Rwsia a China i wneud rhagor i ddefnyddio’u dylanwad i atal llywodraeth Syria rhag ymosod ar ei phobol ei hun.
Mae swyddogion o’r Cenhedloedd Unedig yn dal i geisio cyrraedd tref Hama, lle’r oedd adroddiadau fod cymaint â 78 o bobol ddiniwed wedi eu lladd.
Mae adroddiadau bod rhywrai wedi tanio gynnau atyn nhw wrth iddyn nhw geisio mynd yno i ymchwilio.
‘Peryg o ffrwydro’
Ac mae’r dyn a luniodd gynllun i gael heddwch rhwng y llywodraeth a gwrthryfelwyr wedi rhybuddio bod y sefyllfa’n beryglus iawn.
“Nid Libya yw Syria,” meddai cyn-Ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan. “Fydd Syria ddim yn syrthio i mewn arni ei hun, fe fydd yn ffrwydro, yn ffrwydro y tu allan i’w ffiniau.”