Fe fydd busnesau o Gymru’n cael gwybod sut i fanteisio ar gynllun i wario £45 miliwn ar wella effeithiolrwydd ynni mewn miloedd o gartrefi.
Fe fydd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, yn cyhoeddi ail ran y cynllun ‘arbed’ sydd eisoes wedi helpu i ddiddosi mwy na 7,000 o gartrefi yn rhai o’r ardaloedd mwya’ di-fraint.
O dan ail ran y cynlllun, fe fydd £45 miliwn ar gael i wella 4,800 o dai, gyda pheth o’r arian yn dod o Gronfa Ddatgblygu Ranbarthol Ewroop.
Y bwriad yw talu am ddarpariaethau arbed ynni, gan gynnwys insiwleiddio waliau, gosod paneli haul a bwyleri effeithiol.
Annog busnesau
Fe fydd John Griffiths yn annog busnesau Cymreig i gynnig am y gwaith – mae’r Llywodraeth yn dweud bod mwy na thri chwarter y gwneuthurwyr a’r darparwyr yn rhan gynta’r cynllun yn dod o Gymru.
“Mae tuedd gynyddol mewn prisiau tanwydd yn golygu bod rhaid i ni wneud popeth allwn ni i wneud yn siŵr fod cartrefi Cymru’n addas ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Gweinidog Amgylchedd.
“Bydd arbed 2 hefyd yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru, gan roi cyfle i fusnesau Cymreig gynllunio, gwneud, dosbarthu, gosod a chynnal y dechnoleg.”