Fe fydd tua 3,000 o weithwyr yng nghanolfan drwyddedu Abertawe’n mynd ar streic am ychydig oriau heddiw i brotestio tros fygythiad i swyddi.
Fe fydd arholwyr profion gyrru a swyddogion gwylwyr y glannau yn ymuno â nhw wrth i undeb gweithwyr cyhoeddus y PCS wrthwynebu bwriad i gau rhai gorsafoedd gwylwyr y glannau a chanolfannau profion gyrru.
Bwriad y gweithwyr yw gadael eu gwaith am awr neu ddwy yn rhan o gyfres o streiciau protest gan weithwyr trafnidiaeth yn ystod yr wythnosau nesa’.
Yn Abertawe y mae un o’r gorsafoedd gwylwyr y glannau sy’n mynd i gau – fe fydd hynny’n digwydd yn 2015 er gwaetha’ protestiadau lleol a rhybuddion am y peryg i ddiogelwch.
“Mae’n amlwg i bron bawb nad yw’r toriadau’n gweithio,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, y Cymro Mark Serwotka. “Yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yw cefnogaeth a buddsoddiad, nid rhagor o doriadau.”