Tony Blair
Mae Tony Blair wedi dechrau rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson heddiw ynglŷn â’i gysylltiadau â’r cyfryngau.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad i safonau’r wasg ei fod yn ei chael yn anodd iawn bod yn “wrthrychol” ynglŷn â’r cyfryngau.
Dywedodd y cyn Brif Weinidog ei bod yn “afiach” bod rhannau o’r cyfryngau yn defnyddio papurau newydd fel “modd o gael grym gwleidyddol.”
Ond dywedodd Tony Blair nad oedd awydd ganddo fynd i’r afael â’r cyfryngau gan fod yn well ganddo ganolbwyntio ar faterion fel iechyd, trosedd ac addysg.
Pan ofynnwyd i Tony Blair a oedd ei berthynas gyda Rebekah Brooks yn rhy agos pan oedd mewn grym, dywedodd bod Brooks yn bwysig gan mai hi oedd golygydd y Sun ar y pryd.
Ond dywedodd nad Brooks oedd yn gwneud y penderfyniadau am y materion hyn, ond Rupert Murdoch.