Lona Wyn Jones
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai gofalwraig ifanc o Ddolgellau gafodd ei lladd mewn damwain ffordd ger y Bala nos Wener ddiwethaf.

Roedd Lona Wyn Jones yn ei hugeiniau cynnar ac yn gweithio mewn cartref preswyl yn Nolgellau.

Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A494 rhwng Dolgellau a Bala o amgylch 7.25pm nos Wener. Roedd Lona yn teithio gyda dau berson arall mewn car Ford Fiesta arian a adawodd y ffordd, gan lanio ar ben ei waered. Mae gyrrwr y car a theithwraig arall, y ddau hefyd yn eu hugeiniau, wedi eu hanafu’n ddifrifol ac yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae gyrrwr yr ail gar yn y digwyddiad, Corsa lliw arian, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus. Mae’r heddlu wedi cadarnhau ei fod yn ddyn lleol a’i fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Roedd y ddau gerbyd yn teithio i’r un cyfeiriad pan ddigwyddodd y ddamwain.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif 101.