Mae Plaid Cymru wedi dweud bod ystadegau mewn llythyr at weithwyr Remploy yn brawf fod y ffatrïoedd yn “gwneud yn dda”, ac yn mynd yn groes i ddadleuon gan Lywodraeth Prydain.

Mae Plaid Cymru yn dyfynnu llythyr sy’n llongyfarch gweithwyr Remploy ar dwf o 12.2% mewn gwerthiannau, gostyngiad o bron i 17% mewn costau a gwelliant o 27.9% yn gyffredinol yn yng nghanlyniad y cwmni.

“Mae’r ffigyrau hyn yn profi nad yw bwriad llywodraeth y DG i gau ffatrïoedd Remploy yn ddim ond ymosodiad gweddol amlwg ar y wladwriaeth les,” medd Lindsay Whittle AC, llefarydd Plaid Cymru ar Gydraddoldeb.

“Yr hyn sy’n peri mwyaf o bryder yw ei fod yn dangos fod y llywodraeth wedi camarwain y cyhoedd er mwyn cyfiawnhau eu toriadau,” ychwanegodd.

Mae gweinidog Llywodraeth Prydain dros bobol anabl, Maria Miller AS, wedi dweud nad yw ffatrïoedd Remploy yn “gynaliadwy”  a bod angen gwario’r arian yn fwy effeithiol. Yn sgil toriadau i gyllid Remploy mae disgwyl i saith o’r naw ffatri sydd gan Remploy yng Nghymru gau – Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam.

Datganoli Remploy?

Mae Plaid Cymru yn galw am ddatganoli’r cyfrifoldeb dros Remploy i Gynulliad Cymru.

“Bu Plaid Cymru yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer, ac os yw Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu’r toriadau, yna fe ymddengys nad oes ganddi unrhyw ddewis arall,” meddai Lindsay Whittle.

“Gadewch i ni weld datganoli’r gyllideb i Gymru er mwyn amddiffyn y cwmni.

“Mae Remploy yn rhan bwysig a llwyddiannus o ddiwydiant Cymru, a dengys y ffigyrau fod iddi ddyfodol llewyrchus. Gadewch i ni amddiffyn y sefydliad pwysig hwn a’r gweithwyr Cymreig sy’n rhan ohono.”

Ym mis Mawrth, mewn ymateb i gwestiwn yn San Steffan gan Ann Clwyd AS, dywedodd David Cameron y byddai’n ystyried cynnig i ddatganoli Remploy i Gynulliad Cymru “yn ofalus,” cynnig, meddai, oedd wedi ei gyflwyno mewn “ysbryd adeiladol iawn.”