Lindsay Sandiford
Mae dynes 56 oed o Brydain wedi cael ei harestio yn Bali yn Indonesia ar amheuaeth o smyglo cocên gwerth £1.6miliwn yn ei bagiau.
Fe all wynebu’r gosb eithaf am y drosedd.
Dywedodd swyddog y tollau bod y ddynes wedi cyrraedd y wlad o Bangkok ar 19 Mai. Yn ôl y swyddog, cafwyd hyd i 4.7kg o’r cyffur yn ei bagiau.
Mae tri o Brydeinwyr eraill a dyn o India hefyd yn cael eu holi.
Roedd y ddynes, Lindsay Sandiford, wedi ymddangos mewn cynhadledd i’r wasg yn Kuta, Bali.