Bryn Terfel
Bryn Terfel fydd yn cario’r fflam Olympaidd ar gymal olaf y dydd heddiw.
Ar ôl aros dros nos yn Aberystwyth bydd y fflam yn ymlwybro, trwy ddwylo 84 o bobol, i Fangor ble bydd y canwr opera o Bantglas yn barod i redeg y cymal olaf.
Merch ysgol o ardal Llanbed, Carwen Richards, yw cludwr cyntaf y fflam y bore ma yn Aberystwyth. Mae hi’n llysgennad chwaraeon ar ran y Gemau Olympaidd.
Mae’r rhwyfwraig môr Elin Haf Davies, sy’n ymddangos yn Hwylio’r Byd ar S4C ar hyn o bryd, yn cario’r fflam yn ystod y dydd hefyd.
Yng Nghaernarfon bydd un o athletwyr gorau Gwynedd erioed yn cario’r fflam, ac yntau’n 80 mlwydd oed bellach. Roedd Tony Pumfrey yn athletwr nodedig yn yr 1950au a’r 60au a thorrodd record Cymru am redeg y filltir mewn amser o 4 munud 4 eiliad.
Bydd y fflam yn cael ei chludo ar reilffordd Ffestiniog ar ei ffordd i Fangor, a merch 13 oed o Gaernarfon, Katie Bohana, fydd yn cael y fraint o gario’r fflam ym mhentref Llan Ffestiniog.