Mecsico 2-0 Cymru

Colli fu hanes Cymru yn erbyn Mecsico yn Stadiwm MetLife, Efrog Newydd nos Sul. Dim ond un tîm oedd ynddi trwy gydol y gêm ac roedd goliau hwyr ym mhob hanner gan Aldo De Nigris yn hen ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Fecsico.

Y gôl-geidwad, Jason Brown, oedd chwaraewr gorau Cymru ac roedd hynny’n adrodd cyfrolau. Bu rhaid iddo fod ar flaenau’i draed wedi dim ond pum munud i atal Giovani dos Santos.

Daeth Edgar Andrade yn agos iawn hefyd gyda chwip o ergyd o du allan i’r cwrt cosbi toc wedi hanner awr ond daeth y gôl agoriadol i De Nigris ddau funud cyn yr egwyl. Cafwyd gwaith adeiladu da ond roedd gan De Nigris lawer gormod o amser wrth y postyn pellaf i benio i gefn y rhwyd.

Daeth Brown i’r adwy eto yn fuan yn yr ail hanner pan lwyddodd i atal ergyd Meza o ongl dynn cyn rhwystro peniad nerthol dos Santos.

Roedd Craig Bellamy yn wastraffus gydag un o gyfleoedd prin Cymru cyn i Brown wneud arbediad da arall i atal Andrade unwaith eto.

Yna, sicrhaodd De Nigris y fuddugoliaeth i’w dîm funud o ddiwedd y 90 pan wyrodd ymdrech arall gan Andrade heibio i Brown gyda’i fron.

Gôl flêr arall i’w hildio o safbwynt Cymru ond buddugoliaeth gwbl haeddianol i Fecsico.