Leinster 30-31 Gweilch

Y Gweilch yw pencampwyr y RaboDirect Pro12 yn dilyn buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Leinster yn y rownd derfynol ar yr RDS brynhawn Sadwrn.

Er mai’r Gwyddelod a orffennodd y tymor arferol ar frig y tabl, roedd y Gweilch ar dân yn ail hanner y tymor a hwy aeth a hi yn y ffeinal. Y rhanbarth o Gymru yw’r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y Gynghrair Geltaidd bellach wedi iddynt godi’r cwpan am y pedwerydd tro.

Y Gwyddelod oedd ar y blaen am rannau helaeth o’r gêm ond sgoriodd Shane Williams gais hwyr yn ei gêm gystadleuol olaf erioed i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i’r Gweilch.

Hanner Cyntaf

Cyfnewid ciciau cosb a gafwyd yn y chwarter agoriadol wrth i’r gêm ddechrau yn ddigon distaw. Agorodd Dan Biggar y sgorio gyda chic dda wedi wyth munud cyn i Jonathan Sexton unioni pethau wedi 11 munud.

Y Gwyddelod oedd yn cael y gorau o’r tir a’r meddiant ond y Gweilch a aeth yn ôl ar y blaen wedi 22 munud diolch i dri phwynt arall o droed Biggar.

Ond ychydig funudau a barodd y fantais honno wrth i fachwr y tîm cartref, Sean Cronin, sgorio’r cais agoriadol wedi 26 munud. Collodd y Gweilch y bêl yn dilyn sgrym wan ar eu llinell deg medr a chadwodd Leinster y meddiant yn effeithiol am sawl cymal. Daeth y bêl i Brian O’Driscoll yn y diwedd a denodd yntau ei ddyn cyn rhoi pas slic i ryddhau Cronin. Trosodd Sexton y cais i roi Leinster ar y blaen o 10-6.

Tarodd Biggar yn ôl gyda chic gosb wedi 34 munud cyn i’r Gwyddelod fynd ym mhellach ar y blaen gydag ail gais yn syth o’r ail ddechrau. Roedd cic Sexton yn gywir a naid yr asgellwr, Isa Nacewa, yn un dda ond rhaid dweud fod amddiffyn Hanno Dirksen yn siomedig braidd a’i fod yn gais hynod siomedig i’w ildio. 17-9 y sgôr yn dilyn trosiad Sexton ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ail Hanner

Bu rhaid i’r tîm cartref ddechrau’r ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i’r prop, Heinke van der Merwe, ar ddiwedd yr hanner cyntaf a manteisiodd y Gweilch yn syth gyda chais funud yn unig wedi’r egwyl.

Y canolwr, Ashley Beck, a gafodd y cais o dan y pyst yn y diwedd ond dichon fod y rhan fwyaf o chwaraewyr y Gweilch wedi cyffwrdd y bêl yn y gwaith adeiladu amyneddgar. Roedd mantais y Gwyddelod i lawr i un pwynt yn unig felly yn dilyn trosiad syml Biggar.

Ond pedwar dyn ar ddeg Leinster a gafodd y sgôr nesaf wrth i Sexton gosbi diffyg disgyblaeth Richard Fussell gyda chynnig cywir at y pyst wedi 44 munud.

Ymestynnodd Sexton y fantais i saith pwynt gyda chic arall wedi 51 munud cyn i Shane Williams daro’n ôl gyda chais i’r Gweilch toc cyn yr awr. Cafwyd gwaith cario a dadlwytho da gan rai o’r blaenwyr yng nghanol y cae cyn i’r bêl ddod i’r asgellwr bach ar y chwith. Roedd gan yntau ddigon o waith i’w wneud o hyd ond cafodd y gorau ar ddau daclwr i dirio yn y gornel. Methodd Biggar y gic anodd o’r ystlys wrth i Leinster aros ddau bwynt ar y blaen.

Ac roeddynt naw pwynt ar y blaen yn fuan wedyn diolch i ail gais Nacewa a throsiad Sexton wedi 61 munud. Cais braidd yn ffodus ydoedd wrth i bas O’Driscoll daro pen Jamie Heaslip ac adlamu i lwybr Nacewa ond doedd y Gwyddelod ddim yn cwyno a hwythau ddwy sgôr ar y blaen gydag ychydig dros chwarter awr ar ôl.

Ond rhoddwyd gobaith i’r Gweilch wyth munud o’r diwedd. Nid yn unig y cafodd eilydd brop Leinster, Nathan White, ei anfon i’r gell gosb am dynnu sgrym i lawr ond trosodd Biggar y gic gosb ganlynol i gau’r bwlch i chwe phwynt gydag ychydig funudau i fynd.

A dim ond dau o’r munudau hynny oedd ar ôl pan sgoriodd Shane yn y gornel dde i ddod â’r Gweilch o fewn pwynt. Gwnaeth gweddill y tîm waith gwych i osod y sylfaen ar gyfer y cais cyn i Shane ddefnyddio’i holl brofiad a’i ddawn i oresgyn tacl Rob Kearney a thirio’r bêl.

Roedd gan Biggar drosiad anodd iawn o hyd i ennill y gêm ond llwyddodd y maswr gyda’i droed dde o’r ystlys dde i ennill y gêm a’r bencampwriaeth i’r Gweilch.

Ymateb

Does dim dwywaith mai sgoriwr y cais hollbwysig, Shane Williams, oedd yr arwr ond fe gyfranodd pob un o’r chwaraewyr at fuddugoliaeth gofiadwy a chanodd Shane glodydd ei gyd chwaraewyr ar ddiwedd y gêm:

“Roedd yr ymdrech yna o’r dechrau reit i’r diwedd. Nid y perfformiad gorau’r tymor hyn yn enwedig ar ôl y gêm ddiwethaf yn erbyn Munster ond fe sticodd y bechgyn ati reit i’r diwedd a chware teg, maen nhw’n haeddu cael rhywbeth mas o’r tymor.”