Warren Gatland
Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru ,Warren Gatland wedi gwadu na fydd yn ddigon iach i ofalu am daith y Llewod i Awstralia yn 2013.

Mae gofyn i’r hyfforddwr fod efo’r tim o gyfnod yr haf eleni.

Mewn cyfweliad efo rhaglen Scrum V y BBC, dywedodd y bydd yn holliach o fewn ychydig wythnosau “ac yn barod i redeg i gwmpas y lle”.

Cafodd driniaeth ar ei draed ar ôl syrthio wrth lanhau’r ffenestri tra ar wyliau yng nghartref y teulu yn Seland Newydd dydd Llun y Pasg ac roedd rhai yn ofni y buasai’r ddamwain yn ddigon i’w atal rhag cael ei ddewis yn hyfforddwr i’r Llewod.

‘Dyw Undeb Rygbi Cymru byth wedi rhoi sêl eu bendith ar ryddhau Gatland dros dro er mwyn ymuno efo’r Llewod ond dywedodd wrth y BBC mai’r cam nesaf yw trafod hyd y cyfnod a maint yr iawndal y dylid ei dalu i’r Undeb.

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n go agos ond hyd nes y bydd hyn wedi cael ei wneud does yna ddim byd yn bendant,”meddai.