Mae’r fflam Olympaidd yn parhau i deithio trwy Gymru gan gael ei chludo heddiw o Abertawe i Aberystwyth.

Mae eisoes wedi cael ei chludo ar drên yn Abertawe a bydd yn cael ei chario ar gefn ceffyl yn Aberaeron yn ystod y prynhawn.

Mae dau o’r cludwyr heddiw dros eu 80 oed. Mae Bella Murray yn 82 ac yn hen nain ac mae’r cludwr olaf ond un heddiw, Martin Jones yn 81.

Bydd 114 o bobl yn cario’r ffagl heddiw i gyd a bydd yna ddathliad arbennig yn Aberystwyth heno wrth i’r ffagl gyrraedd pen y daith am y dydd.

Dyma fydd diwrnod hiraf y daith yng Nghymru gan y bydd y fflam yn cael ei chario bron i 138 o filltiroedd ar hyd arfordir y de-orllewin trwy siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion