Roberto Martinez
Mae perchennog clwb pêl-droed Wigan, Dave Whelan, yn credu bod rheolwr y clwb, Roberto Martinez, wedi cael cynnig swydd rheolwr Lerpwl.

Dywedodd Whelan fod Martinez, a gafodd cryn lwyddiant gyda thîm Abertawe cyn symud i Wigan, wedi cael cyfarfod gyda pherchennog Lerpwl yn Miami dydd Iau diwethaf.

“Dwi wedi dweud fy mod i eisiau penderfyniad ganddo erbyn dydd Iau,” meddai.

Bydd Martinez yn dychwelyd o’i wyliau dydd Mawrth a bydd yn cael cyfarfod gyda Whelan i drafod y sefyllfa y diwrnod hwnnw.

Ond mae Whelan yn mynnu nad yw hi’n sicr y bydd Martinez yn derbyn y cynnig i fod yn rheolwr Lerpwl.

“Ddylswn i ddim dweud mor dda ydi Roberto gan fy mod am ei gadw yma,” meddai Dave Whelan. “Does dim amheuaeth mai fo ydi’r rheolwr ifanc gorau yn Ewrop.”

Mi wnaeth Brendan Rogers, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe wnaeth chwarae mor dda yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, wrthod y cynnig i drafod swydd y rheolwr efo Lerpwl.


Roberto Martinez