Nid yw hyfforddwr blaenwyr Cymru yn gweld pam na all y tîm adeiladu ar eu buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Glwad a pharhau’n fuddugoliaethus ar eu taith yn Awstralia.

Aeth 43 o flynyddoedd heibio ers i Gymru guro Awstralia oddi cartref. 

O guro un o’r profion dros yr haf, mi allai Cymru gamu ymlaen yn hyderus a chyflawni mwy, yn ôl Robin McBryde.

 ‘‘Mae momentwm tu ôl i ni ers Cwpan y Byd, ac fe lwyddom i gynnal hynny trwy Bencampwriaeth y Chwe Glwad.  Fe ddaeth y chwaraewyr i ymarfer gan weithio’n galed tu hwnt.  Pe bawn ni’n ennill un o’r gemau prawf yn Awstralia, byddwn wedi llwyddo i wneud rhywbeth nad yw’r tîm wedi gwneud ers sbel,’’ meddai McBryde.

Un man sy’n allweddol i Gymru yw’r sgrym.  Er bod y sgrym wedi bod yn wendid am nifer o flynyddoedd yn nhîm Awstralia, mae McBryde yn rhybuddio’r crysau cochion bod brwydr o’u blaena.

‘‘Mae’r sgrym yn rhan o’r gêm mae Awstralia wedi gweithio’n galed arni, ac yn raddol mae’n gwella,’’ meddai McBryde.

‘‘Mae ganddyn nhw arweinydd cryf yn Stephen Moore, ac yn fy marn i un un o’r bachwyr gorau yn y byd,’’ ychwanegodd cyn-fachwr Cymru.

Y daith

Bydd Cymru’n herio’r Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm ar yr 2il o Fehefin , cyn hedfan i Awstralia a chwarae tri phrawf ar Fehefin 9, 16 a 23.