Mae un o rasys seiclo mwyaf Prydain yn dod i Aberystwyth heno wrth i gymal o’r Halfords Tour Series gael ei chynnal ar strydoedd y dre.
Bydd deg tîm beicio proffesiynol yn rasio yn erbyn ei gilydd ar y strydoedd o amgylch castell Aberystwyth, a dyma’r ail dro i’r ras ddod i’r dref.
Ymhlith yr enwau mawr fydd yn cystadlu mae cyn-enillydd y Paris-Roubaix, Magnus Bäckstedt, a chyn-bencampwr y byd ac enillydd medal aur Olympaidd, Ed Clancy.
“Daeth taith Halfords yma’r llynedd, ac er gwaetha’r tywydd garw roedd bron i dair mil o bobol yn gwylio,” meddai Shelley Childs, sy’n un o drefnwyr Gŵyl Seiclo Aber.
“Eleni rydym ni’n gobeithio dyblu nifer y dorf – mae pobol yn fwy ymwybodol o’r ras.”
Mae’r ras broffesiynol yn dechrau am saith heno a chyn hynny bydd rasys amatur, gan gynnwys un rhwng pobol y brifysgol a phobol y dref.
Rhagor am seiclo cystadleuol yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma.