Gareth Bale
Nid yw’r asgellwr chwimwth Gareth Bale ar gael ar gyfer y gêm ddydd Sul rhwng Cymru a Mecsico.
Fe gyrhaeddodd Cymru Efrog Newydd heb broblemau ddydd Mawrth. Ond ni fydd Andrew Croft yn chwarae wrth iddo gael ei ryddhau o’r garfan am resymau personol.
Ddydd Mercher cafodd y chwaraewyr eu sesiwn ymarfer cyntaf yng nghyfleusterau’r tîm pêl-droed Americanaidd a ennillodd y Super Bowl y flwyddyn yma sef y New York Giants.
Er mai gêm gyfeillgar sydd gan Gymru ddydd Sul mae Coleman yn gwybod na fydd Mecsico, sy’n ugeinfed yn nhabl detholion FIFA, yn wrthwynebwyr rhwydd. Ond mae rheolwr Cymru yn gweld y gêm fel prawf defnyddiol ar gyfer y gemau rhagbrofol yng Nghwpan y Byd.
‘‘Mae Mecsico’n dîm da. Roeddwn wedi gwylio llawer ohonynt yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica. Roeddynt yn dîm dactegol iawn â chwarewyr gyflym,’’ meddai Chris Coleman.
Mae’r chwaraewyr canlynol wedi tynnu allan o’r garfan oherwydd anafiadau: Gareth Bale, Joe Ledley, Neal Eardley, Darcy Blake, David Vaughan a Lewis Price.