Arwr gydag arddeliad
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wrth ei fodd fod yr ymosodwr ysbrydoledig Craig Bellamy wedi rhoi’r sôn am ymddeol ar y silff, ac am roi ei ysgwydd tu cefn i ymgyrch ei wlad i gyrraedd ffeinals Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.

Ar hyn o bryd mae streicar Lerpwl yn Efrog Newydd yn paratoi ar gyfer gêm Cymru v Mecsico ddydd Sul.

“Rwy’n meddwl fod Craig yn gwybod ei fod yn rhan fawr o’n cynlluniau ni,” meddai Coleman.

“Os ydyn ni am wneud unrhywbeth ohoni yn yr ymgyrch ragbrofol fe fydd ganddon ni well cyfle gyda Craig ar fwrdd y llong, ac mae e’n deall hynny.”

Bellach yn 32 oed mae Bellamy wedi ystyried rhoi’r gorau i bêl-droed rhyngwladol oherwydd problemau niferus gyda’i bengliniau.