Mae’r dyn sy’ wedi sgorio’r nifer fwyaf o geisiau i’r Gweilch y tymor hwn, yn awchu i gael herio penacampwyr Ewrop.

Bydd y rhanbarth o Gymru yn Nulyn b’nawn Sul i wynebu Leinster, y tîm wnaeth chwalu Ulster wythnos yn ôl a chipio Cwpan Heineken Ewrop am y trydydd tro mewn pedair blynedd.

Ond mae’r asgellwr ifanc penfelyn potel Hanno Dirksen yn gobeithio parhau i dirio’r ceisiadau yn ffeinal Cynghrair Geltaidd y RaboDirect. Mae’r gêm yn fyw ar S4C.

Mae gan Leinster olwyr arobryn megis y lejend Brian O’Driscoll a’r cefnwr campus Rob Kearney.

“Maen nhw i gyd ymysg y goreuon yn y byd, a dyna’r ydw i’n anelu at fod,” meddai Dirksen sy’n 21 oed.

“Er mwyn bod y gorau, mae’n rhaid i chi chwarae yn erbyn y goreuon.”

Ac er i Leinster fwyta Ulster I frecwast yn ffeinal yr Heineken, mae yna lygedyn o obaith i’r Gweilch.

Y llynedd ar ôl i Leinster gipio Cwpan Heineken, mi gollon nhw yng ngornest ola’r Gynghrair Geltaidd yn erbyn Munster, a’r flwyddyn cyn hynny mi gollon nhw’n erbyn y Gweilch.

Felly er cystal eu camp mewn ffeinals Ewropeaidd, mae eu record mewn ffeinals Cynghriar Celtaidd yn ddigon ciami.

Mae Dirksen yn ffyddiog, yn enwedig wedi i’r Gweilch chwalu Munster 45-10 yn y gêm gyn-derfynol.

“Rhaid i ni fynd yno gyda’r un arddeliad a ddangoswyd yn ein saith gêm olaf a chwarae fel y gwnaethon ni yn erbyn Munster.”

Gog yn gadael

Mae’r prop Cai Griffiths yn ymuno gyda Gwyddelod Llundain.

Bydd y gogleddwr 28 oed yn mynd i chwarae i Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr, ar ôl naw mlynedd gyda’r Gweilch. Mi symudodd i’r rhanbarth o Glwb Rygbi Caernarfon yn 2003 ac mae wedi chwarae i’r Gweilch 115 o weithiau.